Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher, 7
Rhagfyr 2016
Amser y
cyfarfod: 13.30
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Lefarwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i Ysgrifennydd y Cabinet ar ôl cwestiwn 2.
Dai Lloyd (Gorllewin De Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddatganoli masnachfraint rheilffyrdd Cymru a’r Gororau, yn dilyn sylwadau gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth ddoe sy’n awgrymu na fydd Llywodraeth y DU yn datganoli’r fasnachfraint yn ei chyfanrwydd?
Simon Thomas (Canolbarth A Gorllewi): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynglŷn â chamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i warchod adar Cymru rhag ffliw adar?
(5 munud)
(60 munud)
NDM6144
Jenny Rathbone
(Canol Caerdydd)
Rhun ap
Iorwerth (Ynys Môn)
Vikki Howells
(Cwm Cynon)
Angela Burns
(Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro)
Dai Lloyd
(Gorllewin De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi:
a) bod lefelau gordewdra yng Nghymru yn parhau i godi ac mae gordewdra yn fwy cyffredin ymysg cymunedau tlawd;
b) bod newid arferion bwyta pobl yn gymhleth ac yn golygu cyfuniad o sicrhau bod bwyd da ar gael ac yn fforddiadwy a sgiliau coginio;
c) nad yw Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013 wedi cael effaith sylweddol hyd yma ar faint o ymarfer corff y mae pobl yn ei wneud;
d) mai dim ond drwy ddegawdau o addysg a chamau gweithredu caled y llywodraeth y mae cyfraddau ysmygu wedi disgyn, a bod hyn wedi digwydd yn erbyn ymdrechion y diwydiant tybaco i wadu'r wyddoniaeth a rhwystro camau gweithredu'r llywodraeth; ac
e) bod angen cyfuniad o addysg, deddfwriaeth a chaffael cyhoeddus i fynd i'r afael â phroblem gynyddol yn ymwneud ag iechyd y cyhoedd.
'Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013'
(60 munud)
NDM6182
Paul Davies
(Preseli Sir Benfro):
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi Datganiad yr Hydref Llywodraeth y DU;
2. Yn cydnabod y cyhoeddiad y bydd Llywodraeth Cymru yn elwa ar £436 miliwn yn ychwanegol erbyn 2020-21 i'w chyllidebau cyfalaf o Ddatganiad yr Hydref;
3. Yn nodi y bydd Llywodraeth y DU yn codi'r Cyflog Byw Cenedlaethol i £7.50 i gefnogi swyddi ac enillion ledled y DU;
4. Yn nodi ymhellach y bydd y trothwy Lwfans Personol a Chyfradd Uwch yn codi i £12,000 a £50,000 yn y drefn honno erbyn 2020-21, gan leihau'r bil treth incwm i 1.4 miliwn o unigolion yng Nghymru erbyn 2017-18.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn
Gwelliant 1. Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le, gan ailrifo yn unol â hynny:
2. Yn nodi bod Datganiad yr Hydref yn cynnwys dyraniadau cyfalaf ychwanegol ar gyfer cyllideb Cymru o £442m rhwng 2016-17 a 2020-21.
3. Yn gresynu na ddefnyddiodd Llywodraeth y DU Ddatganiad yr Hydref i ddod â'i pholisi niweidiol o gyni cyllidol i ben.
4. Yn gresynu na gydnabu Llywodraeth y DU yr angen am fuddsoddiad yn y gwasanaeth iechyd, gofal cymdeithasol a gwasanaethau cyhoeddus hanfodol eraill yn Natganiad yr Hydref.
Gwelliant 2. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn):
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu bod Llywodraeth y DU wedi methu ag ymrwymo i amserlen ar gyfer cyflwyno trydaneiddio rheilffordd y Great Western rhwng Caerdydd ac Abertawe, a thrydaneiddio prif reilffordd Gogledd Cymru.
Gwelliant 3. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn):
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu bod Llywodraeth y DU wedi methu ag ymrwymo i ddarparu morlyn llanw Bae Abertawe.
Gwelliant 4. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn):
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu bod Llywodraeth y DU wedi methu â dynodi HS2 fel prosiect seilwaith Lloegr yn unig.
Gwelliant 5. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn):
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at fethiant Llywodraeth y DU i ddatganoli'r doll teithwyr awyr.
(60 munud)
NDM6181
Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin
Cymru):
Gareth Bennett (Canol De
Cymru):
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cynigion gan Lywodraeth y DU i ddileu ffioedd a godir gan asiantau gosod i denantiaid yn Lloegr.
2. Yn gresynu bod tenantiaid yn talu £233, ar gyfartaledd, mewn ffioedd gosod.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
(a) cymryd camau i ystyried effaith dileu'r ffioedd hyn, sydd eisoes wedi digwydd yn yr Alban;
(b) cyflwyno deddfwriaeth yn y Cynulliad hwn i wahardd ffioedd rhentwyr, gan sicrhau na ellir codi'r costau hyn, wedyn, ar:
(i) tenantiaid, drwy godi rhenti artiffisial uwch; a
(ii) landlordiaid preifat, gan nodi eu bod yn rhan werthfawr o'r broses o helpu rhentwyr ar yr ysgol eiddo.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1.
Rhun ap Iorwerth
(Ynys Môn):
Ychwanegu fel pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â
hynny:
Yn gresynu bod Llywodraeth Cymru wedi methu â manteisio ar y cyfle yn y Cynulliad blaenorol i wahardd ffioedd gormodol gan asiantau gosod.
Gwelliant 2.
Jane Hutt (Bro
Morgannwg)
Ym mhwynt 3, dileu is-bwyntiau (a) a (b) a rhoi yn eu
lle:
(a) ystyried sut y gallai deddfwriaeth ar y maes hwn weithio
yng ngoleuni
tystiolaeth ar effaith dileu'r ffioedd hyn yn yr Alban a'r
ymatebion i'r ymgynghoriad yn Lloegr.
(b) ymgynghori â'r pleidiau eraill yn y Cynulliad, a rhanddeiliaid, ar y ffordd orau ymlaen i Gymru.
Gwelliant 3. Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn):
Ychwanegu fel is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3:
ystyried ymhellach ffyrdd o fynd i'r afael â thaliadau gwasanaeth gormodol ac annheg, neu gynnydd heb gyfiawnhad mewn taliadau gwasanaeth, a gaiff eu gosod ar lesddeiliaid.
Gwelliant 4.
Rhun ap Iorwerth
(Ynys Môn):
Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu, os yw Llywodraeth Cymru wedi llunio cyngor cyfreithiol yn awgrymu y byddai Bil ar wahardd ffioedd gormodol asiantau y tu allan i gymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad, y dylai'r cyngor hwn gael ei gyhoeddi.
Adam Price (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr): A wnaiff Llywodraeth Cymru ddatganiad am ganlyniad trafodaethau diweddar rhwng Tata Steel a’r Undebau ynghylch dyfodol ei weithgareddau yng Nghymru a Phrydain?
(30 munud)
NDM6183
John Griffiths (Dwyrain
Casnewydd):
Casnewydd – dinas ar i fyny
Tynnu sylw at adfywiad, twf a photensial dyfodol Casnewydd a'r cyffiniau.
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 13 Rhagfyr 2016